Wrth i’r dadlau ynghylch Brexit di-gytundeb barhau yn y Cabinet, mae un o’i aelodau mwyaf brwd dros Brexit wedi awgrymu y gellid ymestyn mymryn ar Erthygl 50.

Er bod Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, yn mynnu bod modd cael holl ddeddfwriaeth Brexit drwy’r senedd erbyn 29 Mawrth, dywed ei bod yn sicr y byddai’r Undeb Ewropeaidd yn caniatáu ‘wythnos neu ddwy’ o ohirio gadael.

Ar yr un pryd, dywed hefyd ei bod yn llwyr gefnogi parodrwydd y Prif Weinidog i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb os bydd raid.

Ar y llaw arall, dywed yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke, y byddai gadael heb gytundeb yn “bur drychinebus” i Brydain. Cadarnhaodd hefyd y byddai’n ystyried ymddiswyddo pe bai polisi o adael heb gytundeb yn cael ei fabwysiadu pan fyddai dewisiadau eraill ar gael.

Mae ei sylwadau’n ategu’r hyn a ddywedodd y Canghellor Philip Hammond yn gynharach yn yr wythnos y byddai Brexit heb gytundeb yn difrodi’r economi ac yn mynd yn groes i addewidion cefnogwyr Brexit yn refferendwm 2016.