Mae Alex Salmond, cyn-Brif Weinidog yr Alban, wedi cael ei gyhuddo o nifer o droseddau rhyw yn erbyn menywod, gan gynnwys dau gyhuddiad o geisio treisio.

Fe gafodd y gwleidydd 64 oed ei gyhuddo gan Heddlu’r Alban y bore yma ac mae wedi ymddangos o flaen llys yng Nghaeredin yn ystod y prynhawn.

Dyna pryd y daeth hi’n amlwg beth yw hyd a lled y cyhuddiadau – y ddau o geisio treisio, naw o ymosod yn rhywiol, dau o ymosod yn anweddus ac un o darfu ar yr heddwch.

Parhau i wadu

Mae Alex Salmond wedi ei ryddhau ar fechnïaeth; doedd dim disgwyl iddo roi ple heddiw ac mae’r achos wedi ei glustnodi ar gyfer ymchwilio pellach.

Mewn datganiad y tu allan i’r llys, fe ddywedodd Alex Salmond ei fod yn parhau i wadu pob honiad o weithredu’n anghyfreithlon.

Roedd yn pwysleisio mai ef oedd wedi mynd at yr heddlu yn unol â threfniant ymlaen llaw ond, gan fod yr achos a ry gweill, fe ddywedodd na fyddai’n dweud rhagor ar hyn o bryd.

Cefndir

Roedd Alex Salmond wedi bod yn Brif Weinidog yr Alban hyd at 2014 ac fe ymddiswyddodd o blaid yr SNP wedi i’r honiadau ddod i’r amlwg yr ha’ diwetha’.

Mae’r achos wedi achosi trafferthion i’w olynydd yn y swydd, Nicola Sturgeon – mae ymchwiliad seneddol i’w hymddygiad hithau ar ôl iddi ddod yn amlwg bod Alex Salmond wedi cael sawl cyfarfod gyda hi ynghylch yr honiadau.