Mae’r corff sy’n arolygu ysgolion yn Lloegr, wedi’i gyhuddo o holi merched Mwslimaidd sy’n gwisgo penwisg hijab “pam eu bod eisiau edrych fel eu mamau”.

Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Shabana Mahmood, wedi mynd benben â phrif arolygydd Ofsted, Amanda Spielman, wrth iddi ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan.

Yn 2017, fe gyhoeddodd Amanda Spielman y byddai arolygwyr yn holi merched ysgol gynradd pam eu bod nhw’n gwisgo’r penwisg Islamaidd.

Ar y pryd, roedd wedi dweud “er bod Ofsted yn parchu dewis rhieni i fagu eu plant yn ôl confensiynau eu diwylliannau eu hunain, fe allai creu awyrgylch lle mae disgwyl i genod wisgo hijab fod yn rhywioli merched bach”.

Ond, wrth gael ei holi am y ffordd y mae’r sgyrsiau gyda’r merched yn cael eu cynnal, doedd Amanda Spielman “ddim yn gwybod” gan nad yw, meddai, wedi bod yn rhan o gynllunio’r archwiliadau hynny.

“Fy nghonsyrn i,” meddai wedyn, “ydi fod plant bach yn rhydd o bob pwysau sydd yna mewn cymunedau y tu allan i’r ysgol.

“Rydan ni’n gwybod fod rhai plant yn teimlo dan bwysau i wisgo penwisgoedd, ac y medr wneud plentyn yn anhapus.”