Mae’r helynt dronau ym maes awyr Gatwick fis diwethaf wedi costio £15m i’r cwmni awyrennau, easyJet.

Yn ôl y grŵp, sy’n darparu gwasanaethau hedfan rhad, maen nhw wedi colli £5m mewn elw a gwario £10m mewn costau ychwanegol o ganlyniad i’r helynt adeg y Nadolig pan gafodd 82,000 o gwsmeriaid eu heffeithio.

Bu’n rhaid gohirio mwy na 400 o deithiau, meddai’r cwmni.

Ond mae Prif Weithredwr easyJet, Johan Lundgren, yn dweud ei fod yn “falch” o staff a’r modd y gwnaethon nhw ofalu am y cwsmeriaid a gafodd eu heffeithio.

Mae hefyd yn ychwanegu y bydd meysydd awyrennau yn “fwy parod” ar gyfer digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.