Mae dull newydd sy’n annog esgyrn i ail-ddechrau tyfu, yn cael ei brofi ar 15 o gleifion yn yr Alban.

Gobaith gwyddonwyr yw helpu’r miliynau o bobol sy’n cael eu heffeithio gan osteoporosis – salwch sy’n achosi i esgyrn y corff fod yn fregus iawn.

Ond trwy ddefnyddio cyfres o ddirgryniadau bach, mae gwyddonwyr yn gobeithio achosi esgyrn bregus i ail-ddechrau tyfu.

Bydd y treial peilot yn cael ei gynnal ar 15 o wirfoddolwyr sydd ag anafiadau i’w hasgwrn cefn yn Ysbyty’r Frenhines  Elizabeth yn Glasgow.

Mae arbrofion cynnar wedi dangos yn barod bod esgyrn newydd yn gallu cael eu creu wrth gyflwyno dirgryniadau bychain a phenodol i gelloedd stem oedolion.

Mae ymchwilwyr nawr am ddefnyddio’r un dechneg, a elwir yn ‘nanokicking’, i’r cleifion gan ddefnyddio dyfeisiadau wedi’u hatodi i’w coesau.

Y syniad yw ysgwyd y celloedd stem o fewn mêr yr esgyrn sydd heb droi mewn i asgwrn eto – gan droi’r rhain yn fraster yn lle.

Mae osteoporosis yn effeithio mwy na thair miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain ac yn achosi o gwmpas 500,000 o anafiadau i esgyrn yn flynyddol.