Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o saethu’r paffiwr 21 oed, Tom Bell yn farw ger tafarn yn Doncaster.

Cafodd ei anafu yn y digwyddiad nos Iau, ac fe fu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae dynes 21 oed hefyd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae lle i gredu bod Tom Bell wedi cael ei dargedu’n fwriadol, a bod y tri yn adnabod ei gilydd.

Mae’r heddlu eisoes wedi dod o hyd i gar BMW wedi’i losgi a allai fod yn allweddol i’r achos.