Mae Dug Caeredin, y Tywysog Philip wedi cael ei “gynghori” gan yr heddlu ar ôl i luniau ymddangos ohono wrth y llyw heb wregys.

Daw’r newyddion ddeuddydd ar ôl i’w Land Rover daro yn erbyn cerbyd arall ger Sandringham yn Norfolk.

Roedd dwy ddynes a babi yn y car arall ac yn groes i adroddiadau, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn ymddiheuriad gan y dyn 97 oed, oedd wedi gorfod cael prawf llygaid gan yr heddlu ar ymyl y ffordd.

Mae dynes 45 oed oedd yn teithio yn y car arall wedi torri ei garddwrn, a chafodd y ddynes oedd yn gyrru friwiau ar ei phen-glin.

Roedd bachgen bach naw mis oed yn y car hefyd, ond doedd e ddim wedi cael ei anafu.

Mae’r ddynes oedd yn gyrru yn dweud nad yw hi’n hapus ag ymateb Palas Buckingham na’r heddlu.

Ymateb yr heddlu

Mae llefarydd ar ran Heddlu Norfolk yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o’r lluniau o Ddug Caeredin heb wregys, a’i fod e wedi “derbyn gair i gall”, sydd “yn unol â’n hymateb safonol”.

Dydy Palas Buckingham ddim wedi gwneud sylw am y lluniau.

Yn dilyn y gwrthdrawiad ddydd Iau, derbyniodd Dug Caeredin Freelander newydd sbon y diwrnod canlynol.