Mae Dr Brian Stowell, oedd yn allweddol yn adfywiad yr iaith Fanaweg,  wedi marw’n 82 oed.

Fe dreuliodd ei fywyd yn gweithio yn y byd academaidd, ac yntau hefyd yn wyddonydd blaenllaw ac yn gyn-ddarllenydd yn Senedd Ynys Manaw.

Dysgodd y Fanaweg pan oedd e’n fyfyriwr, gan fynd yn ei flaen i recordio lleisiau’n siarad yr iaith er mwyn ei rhoi ar gof a chadw.

Fe ddysgodd e’r Wyddeleg hefyd, gan drosi cyrsiau Gwyddeleg i’r Fanaweg mewn ymgais i annog mwy o bobol i’w dysgu.

Roedd yn llais cyfarwydd ar radio’r ynys hefyd, gan gyflwyno rhaglen wythnosol am bron i ugain mlynedd.