Mae Boris Johnson yn galw ar y Llywodraeth “i ddefnyddio Brexit i uno’r wlad” a chanolbwyntio ar y materion oedd wedi arwain at y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw ei sylwadau wrth i’r Prif Weinidog Theresa May geisio achub ei chynllun Brexit ar ôl i’r Senedd bleidleisio o fwyafrif mawr i wrthod y cynllun mewn pleidlais nos Fawrth.

Mae disgwyl i Boris Johnson ddweud heddiw bod yna deimlad bod “pobl y wlad wedi bod yn ymbellhau a hynny oherwydd materion lle mae angen i ni ddod at ein gilydd.”

Mae Theresa May wedi bod yn ceisio trafod gydag Aelodau Seneddol blaenllaw ac arweinwyr y gwrthbleidiau ynglŷn â Brexit. Mae disgwyl iddi gyflwyno ei chynllun Brexit diweddaraf yn y Senedd ddydd Llun. Fe fydd hi hefyd yn parhau ei thrafodaethau Brexit gydag arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud na fydd yn cymryd rhan mewn trafodaeth Brexit gyda Theresa May am ei bod wedi gwrthod rhoi’r gorau i ystyried gadael yr UE heb gytundeb.