Mae dau o bobol eraill wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn afon yn nwyrain Lloegr.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Joe Pooley, 22, o Ipswich, yn afon Gipping ar Awst 13 y llynedd, yn ôl Heddlu Suffolk. Fe ddaeth prawf post mortem i’r casgliad iddo farw o gael ei ddal o dan y dŵr.

Fe deithiodd plismyn allan o’r sir er mwyn arestio dau arall mewn cysylltiad â’r achos. Mae disgwyl i ddyn 30 oed a dynes 24 oed gael eu dwyn i ganolfan ymchwilio Martlesham er mwyn cael eu holi gan dditectifs.

Mae tri o bobol – dyn, 29; dynes, 28; a gwraig arall, 36 – eisoes wedi cael eu harestio, ac wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae’r farwolaeth wedi’i disgrifio fel un heb esboniad.