Mae dyn 53 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar bump o ferched rhwng 2009 a 2014.

Fe gyflawnodd Jason Lawrance o Hampshire yr ymosodiadau honedig yn Swydd Leicester, Swydd Northampton ac yn Swydd Buckingham, yn ôl yr heddlu.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Nottingham heddiw (dydd Iau) i ateb pedwar achos o dreisio a dau achos o ymosod yn rhywiol.

Mae pedwar o’r cyhuddiadau yn cyfeirio at bedair gwraig wahanol a ddioddefodd ymosodiadau rhwng Tachwedd 2009 a Ionawr 2014. Mae’r pumed gwraig yn honni iddi ddiodde’ ymosodiad rhyw yn 2011.