Mae gwerth y bunt wedi syrthio yn drwm yn erbyn y ddoler a’r ewro wrth i’r marchnadoedd ddisgwyl y bydd bargen Brexit Theresa May yn cael ei churo’n wael yn Nhŷ’r Cyffredin heno.

Ac maen nhw’n darogan, beth bynnag fydd yn digwydd nesa’, y bydd rhagor o  ansicrwydd – os na fydd cytundeb o gwbl rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd mae un cwmni o arbenigwyr, ING, yn dweud y bydd y bunt yn cwympo i’r un lefel â’r ewro.

Mae llefarwyr o’r Ddinas yn Llundain yn disgwyl y bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei harafu ac y bydd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn cadw at ei addewid i alw am bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

“Mae’r hyn fydd yn digwydd i’r bunt wedyn yn dibynnu ar beth yw cynllun wrth gefn y Prif Weinidog ac adwaith y Blaid Lafur,” meddai llefarydd ar ran y City Index.