Mae’r achos yn erbyn prif swyddog yr heddlu, oedd ar ddyletswydd pan ddigwyddodd trychineb bêl-droed Hillsborough, yn dechrau yn Llys y Goron Preston heddiw (dydd Llun, 14 Ionawr).

Mae David Duckenfield, 74 oed, wedi’i gyhuddo o ddynladdiad 95 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl trwy esgeulustod dybryd.

Fe fydd y cyn-brif uwch-arolygydd yn sefyll ei brawf ynghyd a chyn-ysgrifennydd clwb pêl-droed Sheffield Wednesday, Graham Mackrell, 69, sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn ymwneud â diogelwch y stadiwm.

Fe gyrhaeddodd David Duckenfield, 74, y llys bore ma gyda’i gyfreithiwr ac aelodau ei deulu.

Roedd perthnasau rhai o’r 96 fu farw yn y trychineb ar 15 Ebrill 1989 hefyd yn Preston ar gyfer yr achos tra bod eraill yn gwylio’r gwrandawiad trwy gyswllt fideo yn adeilad Cunard yn Lerpwl.

Fe fydd yr achos yn dechrau’n iawn yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Mae David Duckenfield eisoes wedi ymddangos trwy gyswllt fideo i bledio’n ddieuog i’r cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd.

Bu farw 96 o bobl yn y trychineb ar safle Sheffield Wednesday yn ystod y gêm rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Dan y gyfraith adeg y trychineb, fydd neb yn cael ei erlyn tros farwolaeth Tony Bland gan ei fod wedi marw fwy na blwyddyn a diwrnod wedi iddo gael ei anafu yn Hillsborough.