Fe fydd mam o Brydain, sydd yn cael ei chadw mewn carchar yn Iran, yn dechrau ymprydio’r wythnos hon mewn protest yn erbyn ei hamodau byw.
Mae disgwyl i Nazanin Zaghari-Ratcliffe ymprydio am dri diwrnod ynghyd a Narges Mohammadi, ymgyrchydd hawliau dynol yn Iran, sydd hefyd yn cael ei chadw dan glo yng ngharchar Evin yn Tehran.
Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe, sy’n dod o Iran, wedi dioddef o broblemau iechyd ers iddi gael ei harestio ym maes awyr Imam Khomeini yn Tehran ar 3 Ebrill 2016.
Yn ôl ei gwr Richard Ratcliffe, mae gofal meddygol yn cael ei atal yn y carchar ac fe fydd hi’n ystyried ymestyn yr ympryd os nad yw’n cael gweld meddyg.
Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe, o Hampstead yn Llundain, ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar ar ôl cael ei chyhuddo o ysbio. Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad.