Ar drothwy’r bleidlais dyngedfennol ar ei chynllun Brexit, mae disgwyl i Theresa May rybuddio bod y Senedd yn debygol o rwystro Brexit rhag digwydd yn hytrach na gadael heb gytundeb.

Wrth iddi wneud apêl funud olaf ar Aelodau Seneddol i gefnogi ei chynllun fe fydd y Prif Weinidog yn eu hannog i ystyried “canlyniadau” eu gweithredoedd o ran gwireddu dymuniad pobol gwledydd Prydain.

Mae disgwyl iddi rybuddio eto y bydd  y ffydd sydd gan bobol mewn gwleidyddion yn dioddef  “niwed catastroffig” os nad yw canlyniad y refferendwm yn cael ei weithredu.

Gydag oriau’n unig i fynd cyn y bleidlais fe fydd Theresa May yn dweud ei bod bellach yn credu ei bod yn fwyaf tebygol y bydd ASau yn rhwystro Brexit yn hytrach na gadael heb gytundeb.

Does dim disgwyl iddi ennill y bleidlais nos yfory (dydd Mawrth, Ionawr 15).

Yn y cyfamser mae tri aelod o’r meinciau cefn yn bwriadu cyhoeddi bil nos Lun a fyddai’n caniatáu i ASau lunio cytundeb Brexit “cyfaddawd” os yw Theresa May yn methu cyhoeddi cynllun gwahanol, meddai’r Ceidwadwr Nick Boles.