Mae Nicola Sturgeon yn bwriadu ei chyfeirio’i hun at banel o ymgynghorwyr annibynnol ar y Côd Gweinidogol yn dilyn cyfres o gyfarfodydd â’i rhagflaenydd, Alex Salmond.

Dywed fod y ddau wedi cyfarfod dair gwaith, ac wedi siarad dros y ffôn ddwywaith, yn dilyn honiadau gan ddwy ddynes fis Ionawr y llynedd o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Alex Salmond.

Ddydd Mawrth, dywedodd llys sifil ucha’r Alban fod ymdriniaeth Llywodraeth yr Alban o’r honiadau yn anghyfreithlon.

Mae Nicola Sturgeon yn dweud bod rhaid i ymchwiliad yr heddlu allu parhau “heb ragfarn”, a’i bod hi wedi penderfynu cyfeirio’i hun at ymgynghorwyr annibynnol er mwyn sicrhau y gall hynny ddigwydd.

“Mae cwestiynau wedi codi ynghylch fy nghyfarfodydd a sgyrsiau ffôn gydag Alex Salmond yn ystod ymchwiliad y Llywodraeth i’r cwynion a gafodd eu gwneud.

“Dw i wedi ymddwyn yn briodol ac mewn ffydd da drwyddi draw, ac yn unol â’r Côd Gweinidogol bob amser.

“Fodd bynnag, dw i wedi ystyried yn ofalus ac yn deall ei bod hefyd yn bwysig i’r Senedd a’r cyhoedd ehangach fod yn sicr o hynny.”

‘Siambls’

Roedd pwysau ar Nicola Sturgeon i gymryd y cam hwn, wrth i Jackson Carlaw, dirprwy arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, ddweud yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddydd Mawrth fod y sefyllfa’n “siambls”.

Does dim modd anwybyddu’r cwynion yn erbyn Alex Salmond, meddai Nicola Sturgeon.

“Y ffaith o hyd yw fod dwy ddynes wrth galon y mater hwn nad oedd modd rhoi eu cwynion o’r neilltu,” meddai.

Dywedodd y byddai sylw pellach ganddi hi, y llywodraeth neu Alex Salmond a’i gynrychiolwyr yn “tynnu oddi wrth, ac yn niweidio, ystyriaeth briodol gan yr heddlu o destun eu hymchwiliad”.