Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes yn nwyrain Llundain.

Cafwyd hyd i’r ddynes yn ei 30au ag anafiadau i’w gwddf mewn eiddo yn ardal Poplar brynhawn ddoe (dydd Gwener, Ionawr 11).

Bu farw yn y fan a’r lle.

Dydy ei henw ddim wedi cael ei gyhoeddi, ond mae ei theulu wedi cael gwybod, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio’n cael ei holi yn y ddalfa yn ne Llundain, ac mae lle i gredu ei fod e’n adnabod y ddynes fu farw.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.