Mae pedair mam sengl cyflogedig wedi ennill her yn yr Uchel Lys dros gynllun credyd cynhwysol Llywodraeth Prydain.

Roedd y menywod wedi dadlau eu bod yn cael trafferthion ariannol oherwydd y ffordd mae’r system budd-daliadau yn gweithio.

Cyhoeddodd dau farnwr yn Llundain heddiw (Ionawr 11) eu bod wedi llwyddo yn eu hadolygiad barnwrol yn erbyn yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Amber Rudd.

Dadl y merched oedd bod taliadau misol yn amrywio’n “enfawr” ac wedi arwain at ddiffyg arian.

Roedd hyn o ganlyniad i “broblemau sylfaenol” yn ymwneud â’r cynllun credyd cynhwysol, medden nhw.

Fe heriodd y merched y dull sy’n cael ei ddefnyddio gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wrth gyfrifo’r swm o arian sy’n daladwy o dan reoliadau credyd cyffredinol 2013.

Dywedodd cyfreithwyr Danielle Johnson, Claire Woods, Erin Barrett a Katie Steward fod y broblem yn debygol o effeithio ar ddegau o filoedd o bobol.

Mae hyn yn cynnwys pobol sy’n hawlio credyd cyffredinol a gafodd ei gyflwyno i gymryd lle budd-daliadau ar sail profion, gan gynnwys cymorth incwm a budd-dal tai.