Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi mynnu y bydd yn parhau â’i waith er gwaethaf “gwrthwynebiad” rhai Aelodau Seneddol.
Daw sylw John Bercow wedi iddo ganiatáu pleidlais ar welliant gan y Ceidwadwr, Dominic Grieve – gwelliant a allai peri her i’r Prif Weinidog, Theresa May.
Os na fydd dêl Theresa May yn pasio’r wythnos nesa’, bydd y gwelliant – sydd bellach wedi cael ei basio – yn cwtogi’r amser sydd ganddi i newid ei chynlluniau.
Fe anwybyddodd John Bercow gyngor swyddogion, ac mi gefnodd ar gynsail, er mwyn caniatáu’r bleidlais ar y gwelliant.
Ac mae Aelodau Seneddol wedi ei gyhuddo o ddangos tuedd wleidyddol.
“Cefn hwyaden”
“Mae’r Llefarydd yn gwybod sut i gadeirio gweithgareddau’r Tŷ gan ei fod wedi bod yn gwneud hynny am naw blynedd a hanner,” meddai John Bercow.
“…Dw i wedi bod yn gwneud hynny, dw i’n parhau i wneud hynny, a byddaf yn dal ati i wneud hynny yn y dyfodol. Dw i ddim yn poeni faint o wrthwynebiad fydd.
“Mae fel dŵr dros gefn hwyaden i mi.”