Ed Miliband - 'y cyfrifoldeb ar y Llywodraeth'
Fe ddylai’r Llywodraeth drafod “o ddifri” gyda’r undebau er mwyn atal streic yn y gwasanaethau cyhoeddus, meddai’r arweinydd Llafur.

Yn ôl Ed Miliband, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw atal y streic bensiynau sy’n cael ei chynllunio ar gyfer diwrnod ola’ mis Tachwedd.

“Y peth pwysica’ yw fod gyda ni drafodaethau iawn a bod y Llywodraeth yn cymryd rhan o ddifri’ ynddyn nhw,” meddai ar ddiwedd cynhadledd flynyddol y blaid.

Roedd yn cyhuddo’r Llywodraeth o godi “treth o 3%” ar weithwyr yn y sector cyhoeddus trwy newid eu hamodau pensiwn “heb drafod”.

Undebau’n pleidleisio

Roedd yn awgrymu bod digon o amser i rwystro’r streic sy’n cael ei chynllunio gan nifer o undebau sector cyhoeddus ac athrawon.

Fe fydd aelodau’r undebau hynny’n pleidleisio ynglŷn â’r syniad yn ystod yr wythnosau nesa’.

Roedd yr arweinwyr Llafur wedi cael eu beirniadu yn y gynhadledd am ddiffyg cefnogaeth i’r streic.