Mae disgwyl i Jaguar Land Rover gyhoeddi eu bod nhw am dorri 5,000 o swyddi yng ngwledydd Prydain.

Mae’r cwmni ceir moethus yn cyflogi 44,000 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig mewn safleoedd yn Mersyside, Solihull, Castle Bromwich a Wolverhampton.

Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i ran o’r 5,000 o swydd sydd am fynd fod yn swyddi rheoli, marchnata a gweinyddol.

Roedd yna adroddiadau y llynedd y gallai miloedd o swyddi gael eu torri yn rhan o gynllun arbed costau gwerth £2.5bn.

Roedd hynny oherwydd cwymp yng ngwerthiant ceir yn Tsieina a’r diffyg angen am geir disel, er na chafodd unrhyw ffigyrau eu cadarnhau ar y pryd.

Mae’r cwmni, sy’n eiddo i’r cwmni o India, Tata, eisoes wedi cael gwared ar 1,000 o weithwyr contract dros dro yn eu safle yn Solihull yn 2017.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad heddiw (dydd Iau, Ionawr 10) gynnwys manylion am werthiant yn ystod 2018, gweledigaeth y cwmni ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, a diweddariad ar arbed arian a buddsoddiad mewn safleoedd yng ngwledydd Prydain.