Mae ymchwilwyr yn honni eu bod wedi gwneud “cam ymlaen sylweddol” yn y gwaith o ddod o hyd i ffordd o drin y teulu o feirws sy’n cynnwys Norovirus.

Mae tîm o wyddonwyr bellach yn dweud eu bod yn deall sut y mae’r teulu calicivirus – sy’n cynnwys y ddau straen, norovirus a sapovirus, yn creu haint yn y corff.

Mae’r ddau fath o feirws yn lledu’n hawdd iawn, ac mae’n anodd iawn eu rheoli wrth iddyn nhw achosi dolur rhydd a gwneud i ddioddefwyr daflu i fyny. Pan maen nhw’n effeithio ysbytai, mae wardiau’n gorfod cael eu cau, ac ymwelwyr yn gorfod cadw draw.

Mae’r ymchwilwyr o Brifysgol Glasgow yn dweud iddyn nhw wneud eu darganfyddiad diweddara’ wrth astudio’r feirws mewn cathod.

Mae’r gwaith ymchwil, sy’n cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, yn dangos fod y feirws yn gallu newid ei siâp er mwyn creu ‘allwedd’ siâp twmffat sy’n ei alluogi i gael mynediad i gelloedd. A dyna lle mae’r haint yn cychwyn.

Mae gwyddonwyr yn gobeithio y bydd y darganfyddiad hwn yn eu galluogi i ddatblygu cyffuriau newydd er mwyn rhwystro’r feirws rhag lledu.