Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi cael ei feirniadu am wneud “jôc warthus” am y diweddar Paddy Ashdown, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

 

Roedd Layla Moran, aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol, wrthi’n talu teyrnged iddo ac yn sôn am ei ofnau am Brexit, pan waeddodd Andrew Bridgen, sy’n cynrychioli Gogledd-orllewin Sir Caerlŷr, “o’r bedd”.

 

Bu farw’r Arglwydd Ashdown o ganser yn 77 oed fis diwethaf.

Wrth ymateb i’r sylw, dywedodd Layla Moran fod y sarhad yn “warthus”.

Cafodd Andrew Bridgen wahoddiad wedyn gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow i ymddiheuro.

 

“Byddaf yn ymddiheuro am fy sylwadau os cafodd unrhyw aelod o’r Tŷ ei sarhau,” meddai.