Mae newyddion cymysg i archfarchnadoedd gwledydd Prydain wrth iddyn nhw gyhoeddi eu ffigurau ariannol diweddaraf.

Tra bod Morrisons wedi cyhoeddi cynnydd o 3.6% yn eu gwerthiant dros y naw wythnos hyd at Ionawr 6, mae gwerthiant marsiandiaeth Sainsbury’s i lawr 2.3% a gwerthiant dillad i lawr 0.2%.

Mae cyfrannau Sainsbury’s wedi gostwng 1% yn dilyn y cyhoeddiad.

Yn ôl penaethiaid, mae cwsmeriaid wedi bod yn fwy gofalus gyda’u harian na’r arfer yn ystod y cyfnod diwethaf.

Dydy ffigurau Tesco ddim wedi dod i law hyd yn hyn.

Greggs

Un cwmni sydd wedi profi llwyddiant sylweddol yn ystod y cyfnod diwethaf yw Greggs.

Mae’r cwmni’n disgwyl cyhoeddi elw blynyddol o £88m, sydd ychydig yn uwch na’r rhagolygon blaenorol.

Roedd gwerthiant y cwmni hyd at Ragfyr 29 i fyny 7.2%.

Mae cyfrannau’r cwmni i fyny 5% erbyn hyn.

Mae’r cwmni wedi gweld cryn gynnydd yn ei boblogrwydd dros yr wythnosau diwethaf yn sgil cyflwyno sosej rôl figan at ei nwyddau.