u’n rhaid anfon y fyddin i faes awyr Heathrow ddydd Mawrth yn dilyn adroddiadau bod drôn wedi achosi oedi i deithwyr.

Fe ddaw wythnosau’n unig ar ôl digwyddiad tebyg yn Gatwick.

Cafodd y fyddin eu galw gan yr heddlu toc ar ôl 5 o’r gloch neithiwr, ac fe fu’n rhaid i deithwyr aros am awr.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu wedi rhybuddio am y peryglon o hedfan drôn ger maes awyr.

Mae’r awdurdodau’n galw ar Lywodraeth Prydain i ddeddfu er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

Rhwng Rhagfyr 19 a 21, fe fu’n rhaid i Gatwick gau droeon, gyda hyd at 1,000 o deithiau wedi’u heffeithio.

Mesurau

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi cyflwyno cyfres o gamau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mae parthau dim dronau o amgylch meysydd awyr wedi’u hymestyn i 5km.

O fis Tachwedd 30, fe fu’n rhaid i ddronau rhwng 250g a 20kg gael eu cofrestru, gyda’r rhai sy’n eu hedfan yn gorfod sefyll prawf.

Bydd modd i’r heddlu ddirwyo unrhyw un o hyd at £100 os ydyn nhw’n torri’r gyfraith newydd.