Fe fydf yr heddlu yn cael pwerau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â droniau – a hynny yn dilyn helynt mawr ym maes awyr Gatwick yn ystod y dyddiau cyn y Nadolig.

Fe fu’n rhaid i Gatwick gau rhwng Rhagfyr 19 a 21 oherwydd adroddiadau fod droniau yn yr awyr uwchben. Fe gafodd tua mil o hediadau eu heffeithio.

Mewn ymateb i’r digwyddiadau, mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi pecyn o fesurau i lanio a chwilio droniau.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud y bydd hi hefyd yn dechrau profi a mesur y defnydd o ddroniau mewn meysydd awyr a charchardai.

Fe fydd yna ardal o 3.1 milltir o gwmpas pob maes awyr yn ardaloedd lle na fydd gan neb yr hawl i hedfan drôn.

Fe allai pobol sy’n torri’r gyfraith yn cael eu dirwyo hyd at £100.

Does yna neb wedi’i arestio hyd yn hyn mewn cysylltiad â’r digwyddiadau yn Gatwick.

Mae Heddlu Sussex yn dal i ymchwilio.