Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud wrth Aelodau Seneddol na ellir “cuddio” rhagor rhag y bleidlais ar Brexit.

Wrth siarad yn ystod cwestiwn brys am y newidiadau i’r Cytundeb Ymadael a’r Undeb Ewropeaidd dywedodd Jeremy Corbyn: “Gyda llai na thri mis i fynd nes dedlein Erthygl 50 ni fydd rhagor o guddio na rhedeg i ffwrdd bellach.

“Fe fydd y mater yma yn diffinio dyfodol Prydain ac ni ddylai gael ei benderfynu gan gynllwynio mewnol y Blaid Geidwadol.

“Mae’r Tŷ hwn a’r wlad yn haeddu llawer gwell.”

Fis ers i’r Prif Weinidog ohirio’r bleidlais dyngedfennol ar ei chynllun Brexit, dywedodd Jeremy Corbyn bod yn rhaid iddi ddweud wrth Aelodau Seneddol pa gynnydd mae hi wedi gwneud wrth geisio sicrhau gwelliannau i’w chytundeb.

“Mae’r amser wedi dod i’r Prif Weinidog ddweud wrth y Tŷ yn union pa sicrwydd cyfreithiol mae hi wedi’i gael gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.”

Fe ofynnodd Jeremy Corbyn i’r Ysgrifennydd Brexit Steve Barclay i sicrhau na fydd y bleidlais yn cael ei gohirio eto.

Fe ymatebodd Steve Barclay trwy ddweud: “Y realiti yw ei fod (Jeremy Corbyn) yn gwrthwynebu paratoadau ar gyfer dim cytundeb, sy’n rhywbeth mae’n rhaid i unrhyw lywodraeth gyfrifol ei wneud, tra ar yr un pryd yn dweud y bydd yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb.”

Fe esboniodd nad oedd Theresa May yn y Senedd am ei bod yn lansio cynllun 10 mlynedd y Gwasanaeth Iechyd.

“Sicrwydd pellach”

Yn y cyfamser mae Theresa May wedi dweud ei bod yn ceisio cael “sicrwydd pellach” gan Frwsel cyn i’r cytundeb ddychwelyd i’r Senedd ond mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud nad oes bwriad i gynnal cyfarfod i ail-drafod y cytundeb Brexit.

Mae disgwyl i’r bleidlais dyngedfennol gael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf, 15 Ionawr.

Mae 209 o Aelodau Seneddol trawsbleidiol wedi arwyddo llythyr yn annog y Prif Weinidog i ddiystyru Brexit heb gytundeb.

Cafodd y llythyr ei drefnu gan y cyn-weinidog Ceidwadol yn y Cabinet, y Fonesig Caroline Spelman a Jack Dromey o’r Blaid Lafur, sy’n rhybuddio am golli swyddi a’r effaith ar ddiwydiannau.

Mae’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr wedi cael gwahoddiad i gwrdd â’r Prif Weinidog yn Downing Street ddydd Mawrth.