Mae dyled y cartref wedi gweld cynnydd “sydyn” yn ystod 2018 yn dilyn blynyddoedd o lymder a diffyg cynnydd mewn cyflogau.

Yn ôl adroddiad gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC), mae eu ffigyrau’n awgrymu bod dyledion – sydd ddim yn forgeisi – wedi cyrraedd y lefelau newydd y llynedd wrth i deuluoedd wynebu £15,385 o ddyled yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn – cynnydd o £886 ers y flwyddyn flaenorol.

Mae hyn yn golygu bod dyledion o’r fath yn cyfrif am 30.4% o incwm y cartref, sydd y tu hwnt i’r lefel yn 2008 adeg yr argyfwng ariannol, meddai’r TUC.

“Mae dyledion y cartref mewn argyfwng,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady. “Mae blynyddoedd o lymder a diffyg cynnydd mewn cyflogau wedi gwthio miliynau o deuluoedd i’r coch.

“Mae’r Llywodraeth yn sglefrio ar haen denau o iâ trwy ddibynnu ar ddyled y cartref i yrru twf. Yr hyn sydd ei angen ar economi gref yw i bobol wario eu cyflogau, nid cardiau debyd na benthyciadau.”