Mae Brexit wedi “cryfhau” yr achos tros annibyniaeth i’r Alban, yn ôl Nicola Sturgeon.

Mae Prif Weinidog yr Alban yn dweud bod buddiannau wlad yn cael eu “hanwybyddu a’u gwthio i’r cyrion”, gan ailgodi’r cwestiwn o annibyniaeth.

Ond er nad yw hi am roi amserlen ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth mewn lle eto, mae’n ychwanegu bod yna fandad am un o fewn tymor presennol Senedd yr Alban.

“Mae’r achos tros annibyniaeth wedi’i gryfhau o’r sail gref yr oedd ganddo yn 2014 oherwydd holl brofiadau’r Alban yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Nicola Sturgeon ar raglen radio y BBC, Good Morning Scotland, y bore ma (dydd Llun, Ionawr 7).

“Fe ddywedwyd wrthyn ni yn 2014 y byddai pleidleisio am annibyniaeth yn peryglu ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Ond oherwydd na wnaethon ni bleidleisio am annibyniaeth, rydyn ni nawr nid yn unig yn wynebu gadael, ond mae llais a buddiannau’r Alban yn cael eu hanwybyddu a’u gwthio i’r cyrion yn llwyr.”

Daw sylwadau Nicola Sturgeon ychydig dros wythnos cyn y bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar gynllun Brexit Theresa May ar Ionawr 15.