Fe gafodd 7% yn llai o geir newydd eu gwerthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl ffigyrau, cafodd tua 2,366,000 o geir newydd eu cofrestru yn 2018, sef cwymp o fwy na 174,000 ers y flwyddyn flaenorol.

Mae’r Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Ceir (SMMT) hefyd yn darogan gostyngiad pellach o 2% yn ystod y flwyddyn sy’n dod.

Mae prif weithredwr y corff masnachol, Mike Hawes, yn disgrifio 2018 yn flwyddyn “hynod drafferthus”, ond mae’n mynnu bod gwerthiant yn dal i gyd-fynd â’r cyfartaledd yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf.

Mae hefyd yn rhybuddio bod pryder am geir disel, trefn newydd o arbrofi ceir, a chwymp yn hyder cwsmeriaid oherwydd Brexit, yn ffactorau sy’n cael effaith ar y farchnad ar hyn o bryd.

“Mae’r heriau sydd o’n blaenau yn rhywbeth tebyg i storm berffaith,” ychwanega Mike Hawes.

“Mae’n achosi cryn bryder mewn ystafelloedd bwrdd ledled gwledydd Prydain a thramor.”

Fe welodd gwerthiant ceir disel gwymp o 30% yn ystod y llynedd.