Mae argyfwng siopau’r stryd fawr yn mynd o ddrwg i waeth ar ôl cwymp arall mewn gwerthiannau ym mis Rhagfyr ychwanegu at ofidion y flwyddyn waethaf erioed iddyn nhw.

Fe wnaeth gwerthiannau ostwng 1.9% o gymharu â Rhagfyr y flwyddyn cynt – gan gadarnhau tueddiad tebyg drwy’r flwyddyn. Dyma’r chweched mis Rhagfyr yn olynol i brofi cwymp o’r fath.

Ar y llaw arall, fe fu cynnydd o 11.9% mewn gwerthiannau ar-lein, yn ôl mynegai’r cyfrifwyr BDO.

“Mae llawer o nerfusrwydd yn y farchnad ac mae hyder cwsmeriaid yn frau,” meddai Sophie Michael, pennaeth manwerthu a chyfanwerthu BDO.

“Ar ôl dioddef y chweched Rhagfyr yn olynol o dwf negyddol, mae siopau stryd fawr Prydain yn cychwyn y flwyddyn ar dir sigledig, ac yn anffodus, mae 2019 am fod yn flwyddyn arall anodd.”