Mae Ryanair wedi cael ei enwi fel y cwmni awyrennau gwaethaf sy’n gwasanaethu meysydd awyr y Deyrnas Unedig – a hynny am y chweched flwyddyn yn olynol.

Mewn arolwg blynyddol gan y grŵp defnyddwyr Which?, y cwmni o Iwerddon gafodd y sgôr isaf o 40% gan ei gwsmeriaid. O’r rheini a wnaeth enwi un cwmni awyrennau na fydden nhw byth yn ei ddefnyddio, fe wnaeth 70% enwi Ryanair.

Mae’r cwmni, a wnaeth elw o £1.75 biliwn y llynedd, wedi cael ei feirniadu’n gyson am amrywiol faterion. Yn eu plith mae gwrthod iawndal i deithwyr am newidiadau i’w trefniadau hedfan, ac am newid ei bolisi ddwywaith am godi tâl am gludo bagiau.

Yn yr arolwg o bron i 8,000 o deithwyr, y cwmnïau awyrennau a sgoriodd uchaf oedd Aurigny (81%), Swiss Airlines (80%) a Jet2 (79%) ar gyfer teithiau byr, a Singapore Airlines (85%), Emirates (81%) a Qatar Airways (80%) ar gyfer teithiau hir.