Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio teithiwr ar drên yn swydd Surrey ddoe.

Yn ôl adroddiadau, roedd dau ddyn wedi bod yn ffraeo am ychydig funudau cyn i un, yn ddirybudd, drywanu’r llall i farwolaeth.

Roedd y dyn 51 oed a fu farw wedi cael ei ladd yng ngwydd ei fab 14 oed.

Mae dynes 27 oed hefyd wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Roedd yr ymosodiad wedi digwydd ar y gwasanaeth 12.58 rhwng Guildford a gorsaf Waterloo yn Llundain brynhawn ddoe. Roedd y sawl sydd o dan amheuaeth wedi dianc o’r trên yng ngorsaf Clandon a bu’r heddlu’n chwilio amdano drwy’r nos cyn arestio’r dyn am 6 o’r gloch y bore yma.