Mae cwpwl wnaeth ennill £115 miliwn yn loteri’r EuroMillions ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn newydd am rannu’r arian gyda theulu a ffrindiau.

Frances a Patrick Connolly o Moira yng Ngogledd Iwerddon oedd y ddau lwcus.

Hwn yw’r pedwerydd swm uchaf i unrhyw un ar Ynysoedd Prydain ei ennill, a’r mwyaf erioed yng Ngogledd Iwerddon.

Maen nhw wedi dechrau ar greu rhestr o’r teulu a ffrindiau sydd am gael blas o’u ffortiwn.

Nid yw’r cwpwl, sydd wedi bod gyda’i gilydd ers 30 o flynyddoedd ac sydd â thair merch a phedwar o wyrion, dal heb benderfynu sut i wario’r arian arnyn nhw eu hunain.