Mae dyn a bostiodd gyfres o gardiau cyfarch “afiach a brawychus” yn bygwrth treisio cyflwynydd newyddion y BBC, wedi cael ei ddedfrydu i garchar.

Roedd Gordon Hawthorn, 69, eisoes wedi ei gael yn euog o stelcian Alex Lovell, sy’n gweithio i BBC Points West yn ninas Bryste.

O ganlyniad i anfon nifer o gardiau yn dyddio o 2012, mae bellach wedi cael dwy flynedd a hanner o ddedfryd. 

Roedd Gordon Hawthorn yn arwyddo’r cardiau gyda ‘X’ nodweddiadol, ac ym mis Ionawr 2016 – ei aduniad blwyddyn newydd ar gerdyn oedd cael rhyw gyda’r cyflwynydd – gyda’i chaniatâd neu beidio.

Fe gysylltodd Alex Lovell gyda’r heddlu ac arweiniodd at apêl gyhoeddus gan yr heddlu ynglŷn â’r cardiau ym mis Mawrth 2018. Daeth dynes arall ymlaen yn honni ei bod hithau wedi cael cardiau tebyg.

Fe gafodd Gordon Hawthorn ei ddal wedi i’w DNA gael ei ddarganfod ar rai o’r cardiau.