Mae’r sector gemau fideo erbyn hyn yn cyfrif am fwy na hanner y farchnad adloniant, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl Cymdeithas y Manwerthwyr Adloniant (ERA), mae gwerth y diwydiant fideo gemau yn y farchnad wedi cynyddu i £3.864bn, sy’n fwy na dwbwl ei werth yn 2007.

Mae hynny’n golygu bod gan gemau fideo, am y tro cyntaf erioed, fwy o farchnad na fideo a cherddoriaeth gyda’i gilydd.

Gwerth y farchnad adloniant ar y cyfan yw £7.537bn ar hyn o bryd.

Cynnydd sylweddol

Yn ôl ffigyrau’r gymdeithas, mae tri gêm wedi cyfrannu at y cynnydd y diwydiant gemau fideo yn ddiweddar, sef Fifa 19, Red Dead Redemption 2 a Call of Duty: Black Ops 4, gyda phob un o’r rhain wedi gwerthu mwy na miliwn o unedau corfforol yng ngwledydd Prydain yn 2018.

Ar y cyfan, mae’r diwydiant gemau fideo yn cyfrif am 51.3% o’r farchnad adloniant, yn ôl ERA.

Ond dydy’r ffigyrau ganddyn nhw ddim yn ystyried gwerthiant digidol y gemau, na nifer y gemau a gafodd eu lawrwytho am ddim neu ar ffonau symudol.

Un o’r gemau rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw Fortnite, sy’n cael ei chwarae gan fwy na 200m o bobol ledled y byd.

Yn ôl Kim Bayley, prif weithredwr ERA, un rheswm dros lwyddiant y diwydiant gemau fideo yw’r ffaith ei fod yn “hynod o effeithiol” wrth fanteisio ar dechnoleg ddigidol i gynnig ffurfiau newydd o adloniant.

“Er yr ifancaf o’r tri sector, dyma’r un mwyaf o bell ffordd erbyn hyn,” meddai.