Fe fydd bar hoyw yn dod yn rhan o set un o operâu sebon mwya’ poblogaidd gwledydd Prydain – mewn ymgais i geisio adlewyrchu amrywiaeth y gymdeithas, meddai’r BBC.

Mewn fideo ar dudalen Twitter cyfres  EastEnders, mae’r cynhyrchydd newydd, Kate Oates, yn dweud y bydd hi’n cyflwyno rhai cymeriadau newydd sy’n perthyn i’r gymuned LGBT, ac y bydd yn rhaid felly cael man iddyn nhw gymdeithasu.

“Rydan ni am agor bar hoyw newydd yn Albert Square,” meddai, “a dyna lle bydd pobol hoyw a strêt yn cyfarfod, a lle bydd nifer o straeon yn cael eu creu.

“Gobeithio y bydd yn lle cwl, yn gyffrous ac yn llawn hwyl – yn weledol drawiadol, ac yn adlewyrchiad triw o fywyd yn ninas aml-ddiwylliannol Llundain heddiw.”