Byddai “bargen fasnach ddeuol anferthol” rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau yn anhebygol o fod yn bosibl os yw bargen Brexit Theresa May yn llwyddo, yn ôl llysgennad yr UD i Brydain.

Dywedodd Woody Johnson y byddai’r Arlywydd Donald Trump yn edrych yn bositif ar ganlyniad fyddai’n galluogi America i lunio cytundebau masnach pwysig gyda’r DG.

Ond fe rybuddiodd os fydd Cytundeb Tynnu’n ôl y Prif Weinidog yn llwyddo, yna bydde trafod bargen fasnach “gyflym” ac “anferthol” rhwng yr UD a’r DG “ddim yn edrych fel y byddai’n bosibl.”