Mae un dyn wedi marw ac mae 22 o bobol eraill yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad bws mini yng ngororau’r Alban.

Cafodd Ross Jones Barker, 59, ei ladd yn y gwrthdrawiad am oddeutu 10.50 fore ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 29) ar ffordd A6089 rhwng Carfraemill a Gordon.

Roedd y bws mini yn cludo 23 o oedolion i rasys ceffylau yn Kelso, yn ôl adroddiadau.

Cafodd y rhai a gafodd eu hanafu eu cludo i ysbytai yn y gororau, Caeredin a Glasgow.