“Ychydig dros 50-50” yw gobeithion Prydain o adael yr Undeb Ewropeaidd os caiff cytundeb Theresa May ei wrthod gan y Senedd, yn ôl Dr Liam Fox, Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan.

Daw ei sylwadau ar ôl i Jean-Claude Juncker, Llywydd Comisiwn Ewrop, alw ar Lywodraeth Prydain i ddatrys y sefyllfa, gan gyhuddo rhai Prydeinwyr o fod yn “hollol afresymol” wrth ddisgwyl i Frwsel gynnig ateb i’r ansicrwydd.

Ac mae Jean-Claude Juncker hefyd yn gwadu cynllwyn honedig i gadw Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd, gan ddweud nad yw’r rhan fwyaf o aelodau seneddol yn ymddiried yn yr Undeb Ewropeaidd na phrif weinidog Prydain.

‘Mater o anrhydedd’

Yn ôl Dr. Liam Fox, “mater o urddas” yw cefnogaeth aelodau seneddol i gynllun Brexit Theresa May, ac y byddai ei wrthod yn “llidiol”.

Mae disgwyl i aelodau senddol bleidleisio yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Ionawr 7, ar ôl i Theresa May ohirio’r bleidlais ar Ragfyr 11 er mwyn ceisio datrys sefyllfa ffiniau Iwerddon.

Mae Theresa May yn mynnu o hyd y bydd y trafodaethau’n parhau, ond mae Brwsel yn gwrthod neilltuo rhagor o amser ar gyfer y trafodaethau pellach.

Ail refferendwm?

Pe bai’r Senedd yn gwrthod ei chynnig, fe allai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, a allai yn ei dro arwain at ail refferendwm.

Ond mae Dr Liam Fox yn dweud na all hynny ddigwydd.

“Pe baen nhw’n gwneud hynny, dw i’n credu y byddech chi’n gweld torri ymddiriedaeth rhwng yr etholwyr a’r Senedd,” meddai wrth y Sunday Times.

“A dw i’n credu y byddai hynny’n mynd â ni i dir di-gynsail gyda chanlyniadau na allwn ni wybod amdanyn nhw.”

Mae’r rhai sy’n galw am ail refferendwm yn honni bod 56% o bleidleiswyr yn barod i aros yn yr Undeb Ewropeaidd pe bai’n cael ei gynnal yn y dyfodol agos.