Mae’r gadwyn siopau cerddoriaeth HMV mewn trafferthion ariannol ac ar fin cael ei rhoi yn nwylo gweinyddwyr.

Mae gan y grŵp 130 o siopau ym Mhrydain ac yn cyflogi 2,200 o staff.

Mae disgwyl y bydd KPMG yn cael eu penodi fel gweinyddwyr.

Mae HMV wedi cael eu taro gan drethi busnes uchel, diffyg hyder gan gwsmeriaid a chynnydd mewn lawrlwytho cerddoriaeth dros y we.

Mae methiant un arall o siopau’r stryd fawr yn nodi blwyddyn ddiflas i’r sector manwerthu.

Mae Poundworld, Toys’R’Us a Maplin wedi mynd i’r wal yn ystod y flwyddyn, tra bod Marks & Spencer a Debenhams wedi cyhoeddi cynlluniau i gau cannoedd o siopau.

Mae siopau’r stryd fawr wedi bod yn gostwng prisiau ar ôl methu â denu digon o gwsmeriaid i’w siopau ddiwedd mis Tachwedd a dechrau’r mis yma.