Mae cerfiadau cerrig a fu ynghudd am 600 mlynedd, wedi’u hail-ddarganfod ar feddrod yn yr Alban.

Mae cadwriaethwyr wedi dod o hyd i o leiaf ddwsin o gerfiadau o gymeriadau tebyg i seintiau ar gefn beddrod Esgob Cardeny yn Eglwys Gadeiriol Dunkeld yn Swydd Perth.

Esgob Cardeny oedd yr un a dreuliodd y cyfnod hiraf yn y swydd yn Dunkeld, wedi’i ordeinio gan y Pab Bened VIII yn 1399.

Fe gafodd y feddrod ei greu yn 1420, ac mae’r cerfiadau diweddaraf ar yr ochr sydd wefi bod yn pwyso yn erbyn wal ac felly’n eu cadw o olwg pobol.

Mae dod o hyd i’r cerfiadau, meddai cadwriaethwyr, yn bwrw goleuni newydd ar bwysigrwydd hanesyddol y safle. Mae’n profi hefyd i rywun symud y cerrig o’u safle gwreiddiol.