Fe gafodd swyddogion eu galw i achub sawl cychaid o bobol wrth iddyn nhw geisio croesi’r Sianel o Ffrainc i Loegr.

Mae adroddiadau am bum digwyddiad gwahanol a’r rheiny’n cynnwys cyfanswm o  40  o bobol, gan gynnwys dau blentyn.

Roedd y rhan fwya’ o’r digwyddiadau wedi codi cyn iddi wawrio, gyda’r mewnfudwyr a’r ceiswyr lloches mewn cychod simsan heb siacedi achub.

Yn ôl Llu’r Ffin, mae yna dystiolaeth bendant fod gangiau’n trefnu’r teithiau o Ffrainc i borthladdoedd fel Folkestone a Dover yng Nghaint – roedd y bobol y tro yma’n cynnwys rhai o Irac, Iran ac Afghanistan.

Mae’r holl oedolion bellach yn y Deyrnas Unedig, gyda’r ddau blentyn yng ngofal yr awdurdodau.