Mae pobol sy’n derbyn awyrennau dibeilot yn anrhegion Nadolig wedi cael rhybudd i ddarllen y rheolau – ac ufuddhau iddyn nhw.

Fe ddaw’r rhybudd yn sgil yr anrhefn ym maes awyr Gatwick ger Llundain pan gafodd tua 1,000 o deithiau awyren eu hatal oherwydd ymyrraeth gan ddroniau.

Mae’r ffigurau diweddara’n dangos bod 120 o achosion o ddamweiniau posib wedi bod rhwng droniau ac awyrennau yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 4 eleni.

Arwydd o’r cynnydd mewn defnydd o ddroniau yw mai dim ond chwech digwyddiad oedd wedi eu cofnodi yn 2014.

Pum mlynedd o garchar

Yn awr, mae’r heddlu ac awdurdodau hedfan yn rhybuddio pobol i gadw at y gyfraith os byddan nhw’n derbyn awyren ddi-beilot yn anrheg heddiw.

Fe all pobol gael hyd at bum mlynedd o garchar a dirwy o £2,500 am dorri’r rheolau o ran uchder a bod yn agos ar feysydd awyr.

Yn y cyfamser, mae’r ddau berson a gafodd eu holi a’u rhyddhau heb fath o gyhuddiad ar ôl y problemau yn Gatwich yn dweud eu bod yn teimlo wedi’u cam-drin oherwydd y ffordd y cawson nhw eu trin.

Ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod bellach yn gallu gosod offer mewn meysydd awyr trwy wledydd Prydain er mwyn dod o hyd i ddroniau a’u hatal.