Efallai bod cymaint â 200,000 o bobol yng ngwledydd Prydain wedi diodde’ twyll ariannol wrth geisio ffeindio cariad ar y We.

Fe fyddai hynny’n golygu bod tua 10,000 o bobol yng Nghymru wedi diodde’ o’r math newydd o drosedd sydd wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Yn ôl ymchwilwyr prifysgol, mae llawer mwy o droseddau o’r fath yn digwydd ond fod pobol yn ofni neu’n teimlo gormod o gywilydd i roi gwybod amdanyn nhw.

Yn ôl ffigurau swyddogol sydd wedi eu casglu o dan adain yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol, roedd 592 o bobol wedi colli arian trwy dwyll ar wefannau cariad yn ystod 2010-11.

Ar gyfartaledd, roedden nhw wedi colli cymaint â £5,000 ond, yn ôl yr adroddiad newydd, mae’r broblem go iawn yn llawer mwy.

‘Llawer gwaeth’

“Mae ein hymchwil ni’n awgrymu bod niferoedd y dioddewyr yng nglwedydd Prydain yn llawer uwch nag y byddai ffigurau swyddogol yn ei awgrymu,” meddai’r seicolegydd, yr Athro Monica Whitty, o Brifysgol Leicester yng Nghaerlŷr.

“Mae hefyd yn cadarnhau amheuon y gwasanaethau cyfraith a threfn bod llawer o droseddau’n ddi sôn amdanyn nhw ac felly fod hyn yn fwy difrifol nag yr oedd pobol yn ei gredu.”

Fel rheol,bydd y twyllwyr yn defnyddio lluniau ffug o ferched deniadol neu swyddogion byddin er mwyn denu’r prae ac, yna, ar ôl eu rhwydo, yn gofyn am arian.