Trenau yng ngorsaf Abertawe
Fe fyddai dod â’r rheilffyrdd yn ôl i ddwylo cyhoeddus yn arbed £1.2 biliwn y flwyddyn, yn ôl adroddiad gan gorff ymchwil yn y maes.

Mae’r ddogfen, a gafodd ei chomisiynu gan bedwar o’r prif undebau trafnidiaeth, yn dweud y byddai ailwladoli’r cwmnïau trenau eu hunain yn arbed £300 miliwn.

Yn ôl y corff Transport for Quality of Life, mae mwyafrif y teithwyr hefyd yn credu bod gan gwmnïau preifat fwy o ddiddordeb mewn elw nag mewn cynnig gwasanaeth da.

Maen nhw a’r undebau’n galw am dynnu’r rheilffyrdd o ddwylo’r cwmnïau preifat ac ail-greu system drenau gyhoeddus.

‘Colli cyfle’

Fe ddywedodd arweinydd undeb yr RMT, Bob Crow, y byddai gwrthod ail-wladoli’r diwydiant yn golygu “colli cyfle” anferth.

Ac yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol undeb ASLEF, roedd angen i’r Llywodraeth allu rheoli’r diwydiant unwaith eto.

“Yr unig ffordd i wneud hynny yw trwy roi diwedd ar yr anhrefn pawb-trosto’i-hun a ddeilliodd o’r system drwyddedau preifat,” meddai Keith Norman.

Ymateb y Llywodraeth yn Llundain yw fod angen arbed arian ond fod adroddiad gan yr arbenigwr Syr Roy McNulty wedi dweud yn glir nad gwladoli oedd yr ateb.

Fe fydd yr undebau’n cynnal rali yn erbyn adroddiad McNulty ymhen y mis.