Fe fydd y Frenhines yn defnyddio ei neges ar Ddydd Nadolig i alw ar bobl i drin ei gilydd a pharch – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cydweld a’i gilydd.

Gyda’r Senedd yn rhanedig dros gynllun Brexit Theresa May a gwrthdaro’n parhau mewn rhannau eraill o’r byd, fe fydd y Frenhines yn dweud bod y neges o “heddwch ac ewyllys da” yn bwysicach nag erioed.

Cafodd ei darllediad ei recordio ym Mhalas Buckingham ar 12 Rhagfyr yn dilyn wythnosau o gecru ymhlith gwleidyddion wrth i’r dyddiad i adael yr Undeb Ewropeaidd, sef Mawrth 29 y flwyddyn nesaf, nesáu.

Er bod y Frenhines, 92, yn gorfod aros yn niwtral o ran materion gwleidyddol, mae na ddyfalu bod ei darllediad yn cyfeirio at Brexit a’i bod yn ceisio tawelu’r pryderon dros adael yr UE.

Mae disgwyl iddi ddweud bod ei ffydd, ei theulu a chyfeillgarwch wedi bod yn “gysur ac yn gefnogaeth” mawr iddi yn ystod cyfnod o newidiadau sylweddol dros y blynyddoedd.