Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo mewn perthynas â ffrwgwd ar long ar afon Tafwys.
Cafodd yr heddlu eu galw i long y Grande Tema, a hwyliodd o Nigeria, ar Ragfyr 10 ac a ddaeth i’r lan yn Essex ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 22).
Cafodd Samuel Jolumi (26), Ishola Sunday (27), Toheeb Popoola (26) a Joberto McGee (20) eu harestio ddydd Gwener yn dilyn adroddiadau bod criw’r llong yn cael eu bygwth.
Bydd y pedwar yn mynd gerbron ynadon yn Chelmsford yfory (dydd Llun, Rhagfyr 24).
Yn ôl y cwmni llongau Grimaldi Lines, chafodd neb ei anafu.