Dydy dyn a dynes a gafodd eu harestio mewn perthynas ag achos o hedfan dronau ger maes awyr Gatwick ddim o dan amheuaeth erbyn hyn.

Dywed Heddlu Sussex fod y ddau – dyn 47 oed a dynes 54 oed – wedi cydymffurfio â’r ymchwiliad, ac na fyddan nhw’n wynebu cyhuddiadau.

Mae’r maes awyr bellach yn cynnig gwobr ariannol o £50,000 am wybodaeth am y digwyddiad.

Fe achosodd y digwyddiad gryn oedi i hyd at 140,000 o deithwyr.

“Mae’n bwysig cofio pan gaiff pobol eu harestio mewn ymgais i wneud ymholiadau pellach nad ydyn nhw’n euog o drosedd, a fyddai Heddlu Sussex ddim yn ceisio cyhoeddi pwy ydyn nhw,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae ein hymchwiliad yn parhau i geisio dod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol am y dronau, ac rydym yn parhau i ddilyn sawl trywydd yn yr ymchwiliad.”