Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu am ddweud y byddai e a’r Blaid Lafur yn bwrw ymlaen gyda Brexit pe baen nhw’n dod i rym yn dilyn etholiad cyffredinol yn y flwyddyn newydd.

Dywed yn y Guardian y byddai’n annog ei blaid i gymeradwyo Brexit mewn ail refferendwm.

Ac mae’n dweud y byddai ei lywodraeth yn gallu sicrhau cytundeb da i Brydain o fynd yn ôl i swyddogion Brwsel.

Ond mae’n cael ei feirniadu am ddweud hynny gan y rhai o fewn ei blaid sydd o blaid aros, ac sydd am iddo annog pleidleiswyr i benderfynu aros mewn ail refferendwm.

‘Digalon a siomedig’

Wrth ymateb i safbwyntiau Jeremy Corbyn, mae un o gyn-weinidigion cysgodol Llafur, Chuka Umunna wedi dweud ei fod yn “ddigalon a siomedig”.

“Mae Brexit, yn ei hanfod, yn brosiect ar asgell dde galed gwleidyddiaeth Prydain sydd am droi Prydain yn hafan drethi nad yw’n cael ei rheoleiddio’n gadarn ar gyfer pobol gyfoethog, heb warchod gweithwyr go iawn, ac yn un sydd am geisio rhoi’r bai am broblemau’r DU ar fewnfudwyr,” meddai ar Facebook.

“Dylai Llafur roi’r gorau i esgus fod yna gytundeb Brexit ’da’, a ddylen ni’n sicr ddim noddi’r prosiect hwn oherwydd mai Brexit yw’r broblem – nid yw’n datrys dim.”

Un arall sydd wedi beirniadu Jeremy Corbyn yw Wes Streeting, aelod seneddol Llafur yng ngogledd Ilford.

“Pam annog y myth y byddai Llafur yn gallu ail-drafod cytundeb Brexit ar yr unfed awr ar ddeg?

“Sut fyddai Brexit Llafur yn well nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd?”

‘Bydwraig geni cynlluniau Brexit y Torïaid’

Ymhlith y rhai mwyaf beirniadol o Jeremy Corbyn mae’r SNP.

Mae Ian Blackford, yr arweinydd yn San Steffan, wedi ei alw’n “fydwraig geni cynlluniau Brexit y Torïaid”.

“Mae Jeremy Corbyn, o’r diwedd, wedi dod oddi ar y ffens y bu’n eistedd arni ers dwy flynedd,” meddai.

“Ond mae’n anodd credu ei fod wedi dod i lawr ar yr un ochr â Theresa May.

“Does gan y Blaid Lafur mo’r gallu i fod yn wrthblaid i’r llywodraeth waethaf y gall y rhan fwyaf o bobol ei chofio yn y DU.”

‘Anwybyddu’

Ac mae Vince Cable, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn cyhuddo Jeremy Corbyn o “anwybyddu” ei gefnogwyr ei hun.

“Mae e’n anwybyddu pryderon ei gefnogwyr ei hun a’r ddifrod economaidd y mae’r arbenigwyr economaidd yn rhybuddio y bydd yn ei wneud i economi’r DU.

“Ar Brexit, allwch chi ddim rhoi papur sigaret rhwng Theresa May a Jeremy Corbyn.”